Hoffai’r tîm sy’n trefnu ddiolch i bawb a gyflwynodd gynnig i siarad yng Ngholocwiwm WHELF 2023 ar 13 a 14 Mehefin.

Mae negeseuon ebost a threfn ddrafft wedi’u hanfon at y siaradwyr llwyddiannus ac mae’r trefnwyr wrthi’n cynllunio’r rhaglen.

Bydd sgyrsiau’n cynnwys:

· Arweinyddiaeth, dysgu a WHELF

· Mistaken for Strangers (Am I now a Librarian Researcher or a Researcher Librarian?) – Myfyrdodau ar fod yn rhan o Garfan Catalydd Ymchwil RLUK

· Canolfan Ddigidol PCDDS

· Llwybrau at lwyddiant – creu dysgu’n canolbwyntio ar y myfyriwr mewn sgiliau gwybodaeth

· Gwthio ffiniau llythrennedd gwybodaeth: sesiwn gydweithredol ar Ymwybyddiaeth Fasnachol

· Gwreiddio a Chynnal Amrywiaeth mewn Sefydliadau a Chasgliadau Diwylliannol

· Cyfnerthu data llyfrgell ar draws timau a chynllunio gwell ystadegau defnydd gyda Microsoft PowerBI

· Gweithio gyda’n Gilydd: Coleg Cymraeg Cenedlaethol – Prosiect Deunyddiau Dysgu Digidol

· Sut mae Trwydded Llyfrgell Academaidd BDS yn symleiddio llif gwaith metadata monograffau

· 2050: tueddiadau mewn llyfrgelloedd

· A mwy!

Bydd rhagor o fanylion gan gynnwys gwybodaeth am gofrestru’n dilyn yn yr wythnos yn dechrau 5 Mehefin 5 2023 felly cadwch olwg am y cyhoeddiad.