Cynhelir Colocwiwm Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF) ar-lein eleni dros ddau hanner diwrnod, dydd Mawrth 13 a dydd Mercher 14 Mehefin 2023, rhwng 9:30 – 13:00. Trefnir y digwyddiad eleni gan Brifysgol Bangor, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Bydd y gynhadledd yn dathlu 30 mlynedd o Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru. Hoffem ddathlu prosiectau llwyddiannus sydd wedi cael eu cyflawni dros y 30 mlynedd diwethaf, ac edrych yn ôl ar y ffordd yr ydym wedi datblygu ein gwasanaethau ar y cyd yn ystod y cyfnod hwnnw. Dywed rhai bod bywyd megis dechrau yn 30 mlwydd oed, felly beth am edrych ar y cyfleoedd a’r heriau newydd sydd i ddod yn ystod 30 mlynedd nesaf WHELF.

Dewch ynghyd fel grwpiau WHELF, neu dimau o fewn eich gwasanaeth i gynllunio cynigion ar gyfer papurau byr, cyflwyniadau cryno neu weithdai rhyngweithiol. Bydd rhagor o fanylion ar gael yn fuan.