Thema’r gynhadledd eleni yw:

Dathlu Pen-blwydd Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru yn 30

Hoffem ddathlu llwyddiant yr holl brojectau llwyddiannus sydd wedi’u cyflawni dros y 30 mlynedd ddiwethaf a bwrw golwg dros sut rydym wedi cydweithio i ddatblygu ein gwasanaethau dros y cyfnod hwnnw. Fel y dywed yr ymadrodd poblogaidd, mae bywyd megis dechrau yn 30 oed, felly gadewch i ni archwilio’r cyfleoedd a’r heriau newydd y byddwn yn eu hwynebu dros 30 mlynedd nesaf Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru.

Byddem yn croesawu cyflwyniadau am unrhyw feysydd lle teimlwch fod gweithio ar y cyd â llyfrgelloedd neu lyfrgellwyr eraill wedi eich helpu chi, neu wedi arwain at lwyddiant. Beth yn eich barn chi yw llwyddiannau mwyaf y cydweithio dros y tri degawd diwethaf? Byddem hefyd yn awyddus i glywed gennych chi am unrhyw feysydd newydd lle teimlwch y dylai llyfrgelloedd fod yn cydweithio er mwyn cyflawni canlyniadau gwell a llywio arferion gorau ar draws y sector a thu hwnt. Gan ei fod yn ben-blwydd arbennig i’r Fforwm, mae croeso i chi rannu atgofion personol, ffotograffau ac atgofion am orffennol Gregynog.

  • Gall cyflwyniadau fod mewn tri fformat:
  • Cyflwyniadau poster;
  • Sgyrsiau byr – tua 10 munud o hyd, a chroesawir yn arbennig gyflwyniadau gan gydweithwyr sy’n newydd i’r proffeswn neu sydd heb arfer â gwneud cyflwyniadau;
  • Papurau byr neu weithdai – tua 30 munud o hyd, gan gynnwys amser ar gyfer cwestiynau ar y diwedd.

Yn ogystal, gwahoddir grwpiau Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru i gyflwyno eu gwaith i’r gymuned yn unol â’r thema, neu i roi cyflwyniad am ddatblygiadau diweddar.

Gwahoddir cyflenwyr hefyd i gyflwyno ceisiadau am sesiynau trafod neu bapurau byr (ar y cyd gyda staff y llyfrgell).

Mae croeso i chi ffrydio eich cyflwyniad yn fyw neu ei recordio ymlaen llaw. Darperir canllawiau i gyflwynwyr yn fuan, gan gynnwys cyngor technegol.

Os hoffech gyflwyno cynnig, anfonwch y wybodaeth ganlynol atom:

  • Rhestr o enwau’r cyflwynwyr, eu rolau a’r sefydliadau y maent yn gysylltiedig â nhw.
  • Teitl y papur a disgrifiad byr ohono.
  • Hyd a ffurf y cyflwyniad.

Dyddiad cau: Dydd Gwener, 19 Mai 2023.

E-bostiwch eich cyflwyniadau at: Gill Morris, WHELF Swyddog Datblygu Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru .

Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru yn cael ei drefnu gan Gyfoeth Naturiol Cymru, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Glyndŵr.[:]