Mae WHELF yn cyhoeddi galwad i ymuno â’r Grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad

Mae WHELF yn cyhoeddi galwad i ymuno â’r Grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad.

Mae Grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad WHELF wedi cyflawni llwyddiannau pwysig ers cael ei sefydlu yn 2020 – gan gynnwys cynhadledd proffil uchel ar Leisiau Eithriedig. Enwebwyd y Grŵp hefyd am Wobr Tîm Llyfrgell y Flwyddyn CILIP Cymru i gydnabod y gwaith a wnaed hyd yma.

Fodd bynnag, mae llawer ar ôl i’w wneud, ac mae Bwrdd WHELF nawr yn dymuno cryfhau’r grŵp i symud y gwaith hanfodol hwn yn ei flaen fel rhan o strategaeth a chynllun gweithredu WHELF. Bydd Bwrdd WHELF yn darparu cymorth ariannol ac arweiniad i’r grŵp, ac yn ymrwymo i ddarparu cyllideb flynyddol am y tair blynedd nesaf. Bydd y cadeirydd presennol yn cydweithio’n agos â’r cadeirydd newydd i helpu i lywio’r agenda a darparu cymorth rhagweithiol i’r Bwrdd.

Rydym ni’n edrych am bobl sydd ag ymrwymiad cryf i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad sy’n gallu ymgysylltu’n weithredol i symud yr agenda hwn yn ei flaen.

Ymhlith y prosiectau arfaethedig mae dadansoddiad Cymru gyfan o ddata Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr ar lyfrgelloedd yn erbyn nodweddion gwarchodedig y Ddeddf Cydraddoldeb, helpu i drefnu’r gynhadledd Lleisiau Eithriedig nesaf a datblygu mentrau eraill ar draws Cymru yn y maes.

Mae’n hanfodol fod y grŵp yn cynnig cyfle i amrywiaeth eang o leisiau gael eu clywed, ac anogwn fynegiant o ddiddordeb ar draws y gymuned, a thu hwnt i aelodaeth graidd WHELF. Cysylltwch â Tracey Stanley i fynegi diddordeb mewn cymryd rhan, neu am sgwrs anffurfiol.