Newyddion Bwrdd WHELF

Ysgrifenna Emma Adamson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Dysgu ym Mhrifysgol De Cymru:

“Mae Andrew Dalgleish a fi wedi trafod a chytuno yr hoffem wneud cais i mi ailymuno â WHELF fel prif gynrychiolydd i ni ar gyfer 2022, gydag Andrew’n parhau’n rhan o’r grŵp o safbwynt LMS a gweithgareddau ehangach.

Mae Andrew wedi bod yn gynrychiolydd gwerthfawr a phroffesiynol o’n safbwynt ni, yn gweithio’n golegol i gefnogi ein hymdrechion yn WHELF, ac rwy’n ddiolchgar iddo ac yn gwerthfawrogi ei amser a’i egni gyda’r grŵp.

Gyda lansio ein strategaeth newydd a symud i ystyried cymhlethdodau materion a chyfleoedd o ran gwaith y Llyfrgell Academaidd ac EDI ar ôl y pandemig, rwy’n falch i ailymuno â WHELF o 2022 ymlaen.”

Hoffai WHELF hefyd ddiolch i Andrew am ei gyfraniad i’n cyfarfodydd a’n gweithgareddau dros y blynyddoedd diwethaf a chroesawu Emma’n ôl i Fwrdd WHELF.