Cyfarfod Bwrdd WHELF 9fed Mawrth 2021
Cyfarfu Bwrdd WHELF ar ddydd Mawrth 9fed Mawrth trwy Teams. Alison Harding yw’r Cadeirydd newydd a Mark Hughes yw’r Is Gadeirydd. Diolchodd Alison i Julie Hart am barhau’n Drysorydd a Steve Williams am ei waith yn Gadeirydd rhwng 2019-21.
Ymunodd Jenny McNally (Rheolydd Busnes LMS WHELF) â’r cyfarfod hefyd i roi diweddariad ar gynllun rhyng-fenthyca P2P Alma WHELF a materion eraill.
Yn y prynhawn cafodd y Bwrdd gwmni Hywel Owen ac Amanda Roberts o Lyfrgelloedd Llywodraeth Cymru. Rhoesant ddiweddariad ar y cymorth a gafodd llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru yn ystod Covid-19 a’r cynlluniau i’r dyfodol. Trafododd y Bwrdd ffyrdd y gall WHELF weithio gyda Llywodraeth Cymru a grwpiau eraill i gynnig cymorth traws-sectoraidd a rhannu profiad.