Cyfarfod yr hydref o Fwrdd WHELF, Llyfrgell Gladstone, Penarlâg, Hydref 2022
Ar 13-14 Hydref 2022 cyfarfu Bwrdd WHELF yn llyfrgell Gladstone, Penarlâg. Roedd yr adeilad a’r gerddi’n edrych yn arbennig o hyfryd yn haul yr hydref.

Croesawodd Cadeirydd WHELF, Alison Harding, Kester Savage o Cyfoeth Naturiol Cymru i’w gyfarfod bwrdd cyntaf a Julie Neenan o Met Caerdydd yn sylwedydd. Yn anffodus, doedd Owain Rhys Roberts (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ddim yn gallu dod oherwydd salwch.
Roedd Ann Rossiter o SCONUL hefyd yn westai ddydd Iau. Arweiniodd drafodaeth ddifyr ar strategaeth a pholisi a sut y gall WHELF a SCONUL gydweithio.
Ymhlith y pynciau eraill a drafodwyd oedd
- y cynlluniau a’r broses ail-gaffael LMS arfaethedig gyda thrafodaeth dan arweiniad Gareth Owen (Prifysgol Caerdydd) a Jenny McNally (rheolwr busnes LMS WHELF).
- Cais am fynegiant o ddiddordeb gan y Bwrdd yn rôl yr Is-Gadeirydd
- Cynlluniau am ddiwrnod cwrdd i ffwrdd ar strategaeth (3 Mawrth 2023, lleoliad i’w gadarnhau) i gynnwys grwpiau WHELF. Y nod yw cydweithio i lunio Strategaeth newydd WHELF ar gyfer 2023-27.