WHELF ac AdvanceHE: Arwain Newid ar Gydraddoldeb o ran Hil mewn Llyfrgelloedd Academaidd ac Ymchwil

Yn ddiweddar trefnodd WHELF hyfforddiant pwrpasol gan AdvanceHE ar Arwain Newid ar Gydraddoldeb o ran Hil mewn Llyfrgelloedd Academaidd ac Ymchwil.

Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys tair sesiwn, pob un yn para tair awr a hanner. Arweiniwyd y sesiynau gan ddwy hwylusydd ysbrydoledig ac angerddol, Dr Lindy-Ann Blaize Alfred a Jennifer Fearon, a fu’n annog cydweithwyr WHELF i fyfyrio ar gredoau ac arferion cyfredol a’u herio.

Nod y rhaglen oedd:

Cryfhau gwybodaeth, sgiliau a hyder i arwain cynnydd ar gydraddoldeb o ran hil mewn AU ac mewn llyfrgelloedd ymchwil;

Dwysau dealltwriaeth o sut mae arweinwyr yn gallu hyrwyddo gwrth-hiliaeth a chydraddoldeb hil yn effeithiol ac yn ddilys.

Darparu lle cefnogol wedi’i hwyluso ar gyfer sgyrsiau gonest am anghydraddoldeb o ran hil a’r heriau y mae’r llyfrgelloedd (a’u harweinwyr) yn eu hwynebu wrth ymdrin â’r mater.

Roedd y sesiynau’n rhyngweithiol iawn ac yn procio’r meddwl, gan ein hannog i rannu profiadau ac edrych am ffyrdd i sicrhau newid yn ein sefydliadau.

Diolch i Lindy-Ann a Jennifer am gyflwyno’r hyfforddiant.