Strategaeth Ddigidol Llywodraeth Cymru
Dyma gyd ymateb CILIP Cymru, WHELF, y Llyfrgell Genedlaethol, Llyfrgelloedd GIG a Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru i Strategaeth Ddigidol (ddrafft) Llywodraeth Cymru.
Gallwch lawr lwytho’r adroddiad llawn o’r ddolen, mae’r prif argymhellion isod.
Prif Argymhellion
Argymhelliad 1: Dysgu o bolisïau blaenorol
Credwn fod y Strategaeth Ddigidol i Gymru yn adeiladu ar waddol o bolisïau ar gyfer Cymru a gweddill gwledydd Prydain trwy ddyheadau digidol bras. Byddem yn argymell y dylai’r gwaith o ddatblygu’r polisi fanteisio ar a chyfeirio at bolisïau blaenorol,a cheisio canfod ynddynt unrhyw ffactorau allai rwystro ei gweithredu.
Argymhelliad 2: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Strategaeth
I fod yn effeithiol, rhaid i Strategaeth Ddigidol i Gymru gynnwys llinellau cyfrifoldeb clir, deilliannau mesuradwy ac ymrwymiad cyllidebol pwrpasol.Rydym yn argymell y dylai’r Strategaeth gynnwys Cynllun Gweithredu sy’n manylu ar yr elfennau hyn yng nghyd-destun cyfrifoldebau, targedau a dyraniadau gwario presennol.
Argymhelliad 3: Cadwraeth a pharhad digidol
Fel y gŵyr Llywodraeth Cymru, mae mecanweithiau effeithiol ar gyfer cynnal a chadw’r cofnod digidol yn allweddol i barhad ac atebolrwydd am ddatblygiad digidol. Argymhellwn y dylai’r strategaeth genedlaethol fras hon roi ystyriaeth i’r seilwaith a’r sgiliau sydd eu hangen i werthuso, storio diogelua darparu mynediad at asedau digidol yn yr hirdymor.
Argymhelliad 4: Llythrennedd data a gwybodaeth
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru gydnabod pwysigrwydd llythrennedd data a gwybodaeth fel cymwyseddau craidd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac y dylid eu gwreiddio mewn cwricwla mewn ysgolion, Addysg Bellach ac Addysg Uwch.
Argymhelliad 5: Strategaeth Sgiliau Digidol
Mae’r strategaeth ddrafft yn cydnabod yn briodol iawn yr angen i fuddsoddi mewn uwch sgiliau digidol, gwybodaeth a data er mwyn creu gweithlu 22ain ganrif i Gymru. Golyga hynny gynllunio a phartneriaeth hirdymor gyda darparwyr addysg. Argymhellwn y dylai Strategaeth Ddigidol i Gymru arwain at Strategaeth Sgiliau Digidol i Gymru, wedi’i chefnogi gan Bwyllgor yn manteisio ar sgiliau o Addysg Bellach ac Addysg Uwch, cyrff proffesiynol, prentisiaethau a chyflogwyr yn y sector