Grŵp Catalogio WHELF – Enwebwyd gan Alan Hughes, Prifysgol Caerdydd:

Cafodd y tîm effaith drawsnewidiol ac adfywiol ar ail-ddyfeisio gweithgareddau catalogio ledled Cymru a thu hwnt.

Llwyddodd y bartneriaeth o 14 sefydliad addysg uwch ac ymchwil ar draws Cymru gyfan – trwy hyder diymhongar, arbenigedd a chysylltiadau proffesiynol – i dreiddio rhwydweithiau llawer ehangach a mwy dylanwadol.


Cafodd eu henwebai ei ryfeddu gan eu gallu i ail-frandio gweithgarwch a fu’n draddodiadol yn un anweledig ac unig yn rym sy’n wynebu ymlaen ac yn galluogi Cymru i arwain y sector.