Strategaeth Ddigidol i Gymru

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Ddigidol i Gymru “Digidol yng Nghymru: gwella bywydau pawb trwy gydweithio, arloesi a gwell gwasanaethau cyhoeddus.”

Mae WHELF yn falch o fod wedi cyfrannu at y broses ymgynghori ddrafft ac i weld fod ei lais yn cael ei adlewyrchu yn y strategaeth, ynghyd â lleisiau CILIP Cymru Wales, Llyfrgelloedd GIG Cymru, Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru a llyfrgelloedd cyhoeddus.