Cydnabyddiaeth UNESCO i un o drysorau’r Llyfrgell
Yny Senedd nos Fawrth arysgrifiwyd wyth darn newydd o dreftadaeth ddogfennol ar Gofrestr DU Cof y Byd UNESCO. Un eitem o Gymru yn unig oedd ymysg yr eitemau hyn, sef yr Arolwg o Faenorau Crucywel a Thretŵr, a luniwyd gan Robert Johnson yn 1587 ac sydd bellach yng ngofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae’r arolwg hwn yn rhan o Gasgliad Badminton yng Nghasgliad Mapiau’r Llyfrgell. Fel arolygon stad eraill o’r cyfnod mae’n cynnwys disgrifiad testunol o’r stad, ei faint, ei eiddo a’i thenantiaid; ond yn wahanol i arolygon eraill mae’r arolwg hwn hefyd yn cynnwys set o fapiau a luniwyd fel rhan o’r arolwg. Hwn yw’r esiampl cynharaf o atlas stad fawr a ddyluniwyd fel cyfrol cydlynol o fapiau stad addurnol.
Mwy o wybodaeth yn y blog yma http://www.llgc.org.uk/blog/?lang=cy
Datganiad i’r wasg yma:
Prif Weinidog Cymru yn dathlu’r dyfarniad o statws Cof y Byd UNESCO i gasgliadau hanesyddol nodedig.