Cyfarfod Rheolwyr Consortia Rhanbarthol y DU
Ar ddydd Mercher 1 Gorffennaf 2020 cynrychiolais WHELF yng Nghyfarfod Rheolwyr Consortia Rhanbarthol y DG gyda chydweithwyr o’r Northern Collaboration, Mercian Collaboration, yr M25 Consortium of Academic Libraries, NoWAL a SCURL. Yn anffodus nid oedd Kate o White Rose yn gallu bod yn bresennol.
Oherwydd Covid-19 buom yn cyfarfod trwy Zoom. Y prif faterion a drafodwyd oedd sut roedd ein haelod sefydliadau yn mynd i’r afael â’r sefyllfa bresennol, ein rolau ein hunain yn y cyd-destun hwnnw a sut roedd amrywiaethau rhanbarthol yn ein heffeithio yn y 3 cenedl dan sylw.
Buom hefyd yn trafod cynadleddau ar-lein, rhywbeth y mae gan WHELF brofiad ohono’n barod, gan y symudwyd Colociwm blynyddol WHELF/HEWIT ym mis Mehefin 2020 o Neuadd Gregynog i fod ar-lein.
Cytunodd pawb ei bod yn ddefnyddiol cyfarfod a rhannu profiadau ac arfer da, a’r bwriad yw cyfarfod eto yn gynnar ym mis Medi