Astudiaeth Dichonoldeb Jisc

Ym mis Gorffennaf 2012 sicrhaodd WHELF gyllid gan JISC i edrych ar y potensial ar gyfer System Rheoli Llyfrgelloedd cyffredin ar draws holl sefydliadau addysg uwch a llyfrgelloedd y GIG yng Nghymru. Byddai Astudiaeth Dichonoldeb Gwasanaethau Cyffredin Systemau Llyfrgell (Cymru) yn cynnig gweledigaeth ymarferol a chynllun ar gyfer model cyffredin; ac yn edrych ar gyfleoedd ar gyfer cyfuno a chydweithio ledled cymuned WHELF.

Ym mis Chwefror 2013 cyflwynwyd adroddiad terfynol y prosiect gan gynnwys argymhellion i WHELF ac fe’i derbyniwyd yn llawn. Lawrlwythwch gopi llawn o’r adroddiad yma.