LMS WHELF a Rennir

Ar 18 Rhagfyr 2014, roedd yn bleser mawr gan WHELF gyhoeddi bod consortiwm o brifysgolion Cymru, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgelloedd GIG Cymru, wedi dewis system rheoli adnoddau unedig Alma Ex Libris a system darganfod a chyflwyno adnoddau unedig Primo Ex Libris i ddarparu System Rheoli Llyfrgell a rennir newydd ar gyfer y sector.

Jayne Dowden, Prif Swyddog Gweithredu Prifysgol Caerdydd, yn llofnodi’r contract, ar ran consortiwm WHELF, i Ex Libris ddarparu’r System Rheoli Llyfrgell a rennir

Mae Consortiwm WHELF (Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru) wedi dewis systemau’r genhedlaeth, nesaf Alma a Primo, yn dilyn proses dethol ac asesu drylwyr. Y 10 llyfrgell yw Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glyndŵr, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ynghyd â llyfrgelloedd GIG Cymru wedi’u cynrychioli drwy Gonsortiwm AWHILES.

Meddai Aled Gruffydd Jones, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chadeirydd WHELF: “Mae holl aelodau WHELF yn disgwyl gwireddu buddion trawsffurfiannol drwy gydweithio ar system rheoli llyfrgell a rennir, gan gynnwys darparu rhyngwyneb chwilio dwyieithog sengl ar gyfer addysg uwch ac ymchwil yng Nghymru, ynghyd â’r potensial ar gyfer cydweithio dwysach ym meysydd datblygu a rheoli casgliadau”.

Ar hyn o bryd, mae aelodau Consortiwm WHELF yn defnyddio amrywiaeth o systemau rheoli llyfrgell unigol a sawl system darganfod wahanol. Drwy ddewis Ex Libris fel darparwr unigol, bydd y Consortiwm yn darparu system llyfrgell unigol y genhedlaeth nesaf, ar gwmwl, a gaiff ei chyflwyno ar sail meddalwedd fel gwasanaeth.

Bydd Alma a Primo yn darparu system unedig ar gyfer rheoli a darganfod adnoddau, gan alluogi aelodau WHELF i fabwysiadu llifoedd gwaith a rennir, wedi’u symleiddio, gan ehangu cyfleoedd cydweithio ar draws y Consortiwm.

Bydd System Rheoli Llyfrgell a Rennir WHELF yn cynnig llawer o fanteision i’r sefydliadau sy’n rhan ohoni. Mae’r manteision hyn yn rhai ariannol ac anariannol.

Ariannol

  1. Disgwylir i’r prosiect arbed costau drwy:
  • Rannu cost caffael yr UE (e.e. ariennir swydd rheolwr y rhaglen drwy grant gan Lywodraeth Cymru a chyfraniadau holl bartneriaid y consortiwm
  • Mae cyflenwyr wedi awgrymu y bydd gostyngiad ar gael am brynu system fel rhan o gonsortiwm
  • Costau caledwedd llai drwy weithredu fel system ar gwmwl
  • Potensial tymor hir i rannu datblygiad a gwasanaethau casgliad

Anariannol

  1. Disgwylir i’r prosiect ddarparu gwell profiad i ddefnyddwyr, drwy:
  • Botensial i ddefnyddio pwynt mynediad unigol i chwilio ar draws casgliadau’r sefydliadau yng Nghymru sy’n rhan o’r system
  • Llai o gyfnodau pan nad yw’r system ar gael drwy ddefnyddio system fwy cadarn a leolir ar gwmwl
  • Llifoedd gwaith gwell gan arwain at wasanaethau gwell
  • Ehangu cyfleoedd cydweithio drwy ddefnyddio’r system a rennir. Gallai’r rhain gynnwys
    • trefniadau ar y cyd ar gyfer benthyca a rheoli trwyddedau
    • rhannu gwybodaeth reolaeth a dadansoddiad amser go iawn gan arwain at wasanaethau gwell

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Gareth Owen
Rheolwr y Rhaglen
System Rheoli Llyfrgell a Rennir WHELF
OwenG12@cardiff.ac.uk / 029 20874014

Cyflwyniad gan Reolwr y Rhaglen, Gareth Owen, a Mark Hughes, Pennaeth Casgliadau Prifysgol Abertawe yn seminar blynyddol Grŵp Defnyddwyr LIR Heanet ar gyfer llyfrgelloedd a gynhaliwyd yn Nulyn yn 2015

Gellir gweld fideo o’r cyflwyniad hefyd drwy glicio yma

Cefndir prosiect WHELF i Rannu Gwasanaethau Llyfrgell
Mae diddordeb sefydliadau WHELF mewn rhannu gwasanaethau a systemau wedi bod yn cynyddu ers nifer o flynyddoedd, ac mae gan WHELF hanes hir o roi mentrau cydweithredol llwyddiannus ar waith, e.e. cynlluniau WHELL, WALIA, CROESO.

Gwelir rhannu system rheoli llyfrgell fel maes a allai ysgogi mwy o gydweithio ac mae’n garreg filltir yn llinyn ‘Gwasanaethau a Rennir’ Cynllun Datblygu WHELF ac yn elfen allweddol o Gynllun Gweithredu WHELF 2011-13. Ariannwyd astudiaeth dichonoldeb gychwynnol gan CyMAL.

Ym mis Gorffennaf 2012, llwyddodd WHELF i sicrhau cyllid gan JISC i archwilio’r potensial i holl lyfrgelloedd sefydliadau addysg uwch a’r GIG yng Nghymru rannu system reoli. Byddai’r Astudiaeth Dichonoldeb Rhannu Gwasanaethau Systemau Llyfrgell (Cymru) yn darparu gweledigaeth ymarferol a chynllun ar gyfer model a rennir. yn archwilio cyfleoedd ar gyfer integreiddio a chydweithio ar draws cymuned WHELF.

Ym mis Chwefror 2013, cyflwynwyd adroddiad terfynol y prosiect, gan gynnwys argymhellion, i WHELF a derbyniwyd yr adroddiad cyfan. Darllenwch yr adroddiad cyflawn neu grynodeb ohono.

Mae’r prosiect wedi argymell mai sefydlu Consortiwm Cymru Gyfan â threfniadau llywodraethu ffurfiol yw’r opsiwn gorau i ddarparu gwasanaeth a rennir. Yn ymarferol, bydd hyn yn gofyn i’r consortiwm gytuno’n ffurfiol ar y prosesau, yr arferion gweithio a’r ffurfweddau y bydd yr holl aelodau’n cydymffurfio â nhw.Yr opsiwn a ffefrir yw system ar gwmwl, wedi’i darparu gan werthwr (neu werthwr ffynhonnell agored), oherwydd hwn fydd yr ateb mwyaf cadarn a chost-effeithiol.

Mae rhannu gwasanaethau a chynyddu effeithlonrwydd drwy gydweithio ar raddfa fwy hefyd yn flaenoriaeth strategol a roddwyd i sefydliadau addysg uwch Cymru gan HEFCW fel rhan o’r strategaeth “Ailgyflunio a Chydweithio”.

Ein gweledigaeth strategol ar gyfer y “Rhaglen Rhannu Gwasanaethau Llyfrgell” yw darparu mynediad i adnoddau a gwasanaethau a rennir llyfrgell academaidd rithwir i Gymru. Ein huchelgais yw y bydd y rhaglen yn cael effeithiau uniongyrchol ar ddysgwyr a/neu ddinasyddion unigol, sefydliadau dysgu a Chymru fel economi wybodaeth fywiog;

  • Bydd unigolion yn gallu manteisio ar y gwasanaethau a rennir, a ddarperir yn uniongyrchol iddynt;
  • Bydd yn haws i sefydliadau dysgu (ar draws ffiniau sectorau) gydweithio at ddiben dysgu, addysgu ac ymchwil a
  • Bydd gan Gymru blatfform gweladwy i gael mynediad i wybodaeth o fewn busnesau Cymru ac iddynt, yn ogystal â chyfle i arddangos yr wybodaeth a grëwyd yng Nghymru i bartneriaid economaidd a gwleidyddol.