Digwyddiad Rhestrau Darllen WHELF

Bydd WHELF yn cynnal digwyddiad Rhestrau Darllen rhithwir ar 13 a 14 Gorffennaf ac rydym ni’n chwilio am siaradwyr. Os oes gennych chi syniad am sgwrs, astudiaeth achos, trafodaeth neu arddangosiad ar y themâu canlynol, neu’n gysylltiedig â nhw, cysylltwch â Gill Morris erbyn 5pm ar 27 Mai gydag amlinelliad o’ch cynnig:

  • Amrywio rhestrau darllen
  • Dadansoddeg rhestrau darllen
  • Caffael/pwrcasu deunydd rhestrau darllen
  • Eiriolaeth/hyrwyddo rhestrau darllen i staff academaidd a myfyrwyr
  • Llais y myfyriwr / adborth yn ymwneud â chynnwys/darpariaeth rhestrau darllen
  • Digido deunydd rhestrau darllen

Dylai eich amlinelliad gynnwys teitl, enwau’r cyflwynwyr a hyd at 300 gair yn disgrifio eich cynnig. Ar y cyfan disgwylir i bob slot fod yn 30 munud gan cynnwys cwestiynau, ond os hoffech gynnig slot hirach, nodwch hynny yn eich amlinelliad.