Defnyddio Llyfrau Byw i helpu datblygu dealltwriaeth ar
draws profiadau a diwylliannau amrywiol

10.00-11.30 Dydd Mercher 10 Mawrth trwy Zoom

Bydd Philippa Price yn rhannu ei phrofiad o helpu trefnu ‘Byd
Beiddgar Newydd: Gwytnwch a chymuned’, digwyddiad ar-lein ym
Mhrifysgol Abertawe i annog deialog, lleihau rhagfarnau ac annog
dealltwriaeth trwy Lyfrau Byw. Cafodd Llyfrau Byw eu recriwtio o blith
staff a chymuned myfyrwyr y Brifysgol. Roedd gan bob Llyfr stori i’w
hadrodd oedd yn adlewyrchu themâu gwytnwch neu gymuned.
Roedd ymwelwyr â’r digwyddiad yn benthyg Llyfr(au) Byw ar gyfer
cael sgwrs bersonol 15-munud pan roeddent yn cael eu hannog i
ofyn cwestiynau a dysgu mwy am y Llyfr.
Bydd Philippa yn sôn am sut ddaeth y syniad ac yn esbonio’r
cynllunio a’r paratoi oedd eu hangen er mwyn cynnal y digwyddiad.
Bydd amser ar y diwedd am sgwrs anffurfiol fel y gall cynrychiolwyr
ofyn cwestiynau a thrafod syniadau.
10.00-11.00 Cyflwyniad (croeso i gwestiynau)
11.00-11.30 Trafodaeth anffurfiol (dewch â diod!)
Anelir y digwyddiad DPP hwn at y sawl sy’n awyddus i gynnal
digwyddiad tebyg neu fyddai’n hoffi gwybod mwy am y cysyniad.

https://www.eventbrite.co.uk/e/using-living-books-to-develop-understanding-across-diverse-experience-tickets-142085823523