Digwyddiad Wythnos Mynediad Agored Rhyngwladol

“The Institution as a Publisher”

Dydd Iau, 22 Hydref 2015

Y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor

1-3pm gyda chinio am 12.30

 OAlogo 1-1.45 Cyhoeddi ysgolheigaidd yn y llyfrgell Graham Stone, Rheolwr Adnoddau Gwybodaeth, Gwasanaethau Cyfrifiadureg a Llyfrgell, Prifysgol Huddersfield Ail-lansiwyd gwasg Prifysgol Huddersfield yn 2010. Yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf mae’r wasg wedi cyhoeddi 12 monograff (6 ar fynediad agored), 7 cyfnodolyn mynediad agored a nifer o CD/DVDs drwy Huddersfield Contemporary Records. Bydd y cyflwyniad hwn yn edrych ar yr hyn rydym wedi ei ddysgu dros y 5 mlynedd ddiwethaf – rhai o’r peryglon a’r llwyddiannau – ac i ble rydym ni’n gobeithio mynd o’r fan hon. Bydd y cyflwyniad hefyd yn cyfeirio’n fyr at fanteision y cydweithio posibl rhwng gweisg newydd prifysgolion.   1.45-2.30 Dau ohonom ni: cydweithio rhwng y llyfrgell a’r wasg Anthony Cond, Rheolwr Gyfarwyddwr, Gwasg Prifysgol Lerpwl ac Andrew Barker, Pennaeth Cyswllt Academaidd a Chasgliadau Arbennig ac Archifau, Llyfrgell Prifysgol Lerpwl. Mae datblygiad cyhoeddi gan lyfrgelloedd yn y DU, yn dilyn ei dwf parhaus yn yr Unol Daleithiau, yn arwydd o ddymuniad i herio ac ategu’r arferion sefydledig o gyhoeddi ysgolheigaidd. Ond pa broblemau y gall yr atebion canfyddedig hyn eu datrys mewn gwirionedd, a sut y gall llyfrgelloedd sy’n cyhoeddi, gweisg prifysgolion a phartneriaethau rhwng y ddau fod o fudd i’r sefydliadau sy’n eu cynnal? Gan ddangos partneriaeth gyhoeddi lewyrchus yn Lerpwl, a gwybodaeth gynhwysfawr o ôl-gatalog y Beatles, mae Andrew Barker ac Anthony Cond yn eich gwahodd i ymuno â thaith ddirgel hudol o’r cydweithio rhwng y llyfrgell a’r cyhoeddwr.   2.30-3 Trafodaeth am brojectau cyhoeddi mewnol sy’n mynd rhagddynt ym Mhrifysgol Bangor. Digwyddiad rhad ac am ddim i aelodau WHELF. I archebu eich lle, cysylltwch â c.a.roberts@bangor.ac.uk