Mae Is-Grŵp Dysgu ac Addysgu WHELF yn eich gwahodd i ymuno â ni ar gyfer y DysgGwrdd rhad ac am ddim hwn ar ddysgu cynhwysol, fydd yn edrych ar sut allwn gynllunio profiadau dysgu sy’n lleihau rhwystrau i fyfyrwyr anabl a gwella’r profiad dysgu i bawb.
Cynhelir y DysgGwrdd ar 12 Mai rhwng 10-12 trwy Zoom. Mae’r rhaglen yn cynnwys y canlynol:
Croeso
Sarah Jones, Cadeirydd Is-Grŵp Dysgu ac Addysgu WHELF
Dynesiad holistaidd: cynllun cyffredinol ar gyfer dysgu
Joe Nicholls, Ymgynghorydd Addysg, Gwasanaeth Llyfrgell y Brifysgol, Prifysgol Caerdydd
Cefnogi myfyrwyr sydd ag anabledd print drwy ddarparu fformatau hygyrch ym Mhrifysgol Abertawe.
Martina (Tina) Webber, Rheolydd, Canolfan Trawsgrifiad Prifysgol Abertawe
Sut alla i wneud fy neunydd dysgu yn fwy cynhwysol? Defnyddio nodweddion yn PowerPoint a Word i wneud gwybodaeth yn fwy hygyrch ac yn haws ei defnyddio.
Philippa Price, Llyfrgellydd Pwnc, Prifysgol Abertawe
C&A a chrynhoi
Sarah Jones
Os hoffech fod yn bresennol, dylech archebu eich lle yma. Bydd dolen ar gyfer y cyfarfod Zoom yn cael ei e-bostio at bawb a gofrestrodd ar 11 Mai.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y digwyddiad.
Philippa Price a Rebecca Mogg
Ar ran Is-Grŵp Dysgu ac Addysgu WHELF