Estynnwn wahoddiad cynnes ichi i’n Dysgwrdd Sut Mae Llyfrgelloedd yn Cefnogi Ymchwil?, sy’n ddigwyddiad am ddim a drefnir gan y tîm Cysylltiadau Academaidd yn Llyfrgell Hugh Owen, Prifysgol Aberystwyth.  Dydd Mawrth 23 Tachwedd, 11:00-14:45

Mae gennym raglen drawiadol o siaradwyr i’w rhannu â chi: o brifysgolion ledled Cymru a Lloegr, yn cynnwys Llyfrgell Bodleian Rhydychen, y GIG ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. 

Gwelwch y wefan a’r rhaglen am ragor o fanylion

Bydd y digwyddiad o ddiddordeb i lyfrgellwyr a gweithwyr ym maes gwybodaeth o nifer o sectorau, i ymchwilwyr, myfyrwyr llyfrgellyddiaeth, a mwy. Croeso i bawb

llenwch y ffurflen fer hon i arcgebu’ch lle os gwelwch yn dda a defnyddiwch y hashnod #aberltm2021 i fod yn rhan. Edrychwn ymlaen i gyfarfod ar-lein.  

Cwestiynau? llyfrgellwyr@aber.ac.uk