Cynhadledd Gregynog 10fed–13eg Mehefin 2014: Galw am Bapurau Thema: “Ailfeddwl y Dyfodol: Bodloni staff a myfyrwyr ar adeg pan fo adnoddau’n lleihau a disgwyliadau’n cynyddu”. Bob blwyddyn mae HEWIT a WHELF yn trefnu cynhadledd breswyl ym Mhlas Gregynog, canolfan gynadleddau Prifysgol Cymru. Mae hwn yn gyfle blynyddol i staff TG a Llyfrgell ac ymarferwyr ar bob lefel i gydweithio a rhannu ymarfer gorau i wella bodlonrwydd defnyddwyr. Prifysgol Aberystwyth sy’n trefnu Cynhadledd eleni a’r thema yw: “Ailfeddwl y Dyfodol: Bodloni staff a myfyrwyr ar adeg pan fo adnoddau’n lleihau a disgwyliadau’n cynyddu”. Rydym yn ceisio papurau, cyflwyniadau a gweithdai (sy’n ymwneud â TG a Llyfrgelloedd) ar y themâu canlynol: 1. Hyrwyddo llythrennedd digidol staff a myfyrwyr 2. Cefnogi’r defnydd o wybodaeth ddadansoddeg/busnes i drwytho penderfyniadau a chynllunio 3. Rheoli storio data a mynediad diogel i ddata ac adnoddau mewn awyrgylch agored, yn enwedig data ymchwil Ynghlwm wrth y rhain ceir pynciau megis BYOD (Dewch â’ch Dyfais eich Hun) mewn yr ystafelloedd dosbarth. Maer pynciau yn eang ac yn gallu cynnwys: • Defnyddio catalog • Siarad â Llyfrgellydd • E-ddysgu • Cefnogaeth i ddyfeisiau symudol mewn ysgolion astudio • Materion yn ymwneud â’r rhwydwaith • Sefydlu dyfeisiadau • Cefnogi rhychwant eang o ddyfeisiadau • Diwifr a lled band • Defnyddio BYOD yn yr ystafell ddosbarth. Arddangos o bell, systemau ymateb, ac ati • Mynediad corfforaethol/rheoli data, a rheoli dyfeisiadau corfforaethol Cydweithio yn meysydd fel caffael mewn pwnc bras sydd yn gallu cofleidio materion eraill fel: • Systemau Rheoli Dysgu • Casgliadau arbennig • Pwrcasu ar y cyd • Rhestri darllen • Pwrcasu ar y cyd • Cloud • Rhoi ar gontract allanol • Rheoli storio data • Mynediad diogel i ddata, yn enwedig data ymchwil • Llythrennedd digidol • Defnyddio gwybodaeth ddadansoddeg/busnes i drwytho penderfyniadau a chynllunio A hefyd darparu cefnogaeth o bell a all gynnwys ond nid yn gyfyngedig i • Anghenion Myfyrwyr Rhyngwladol • Gwasanaeth Cwsmeriaid 24/7 • Dysgu o Bell • Mynediad agored • Mynediad Agored • Storfeydd • Cymorth TG • Sgwrsio Byw • Campysau Pell • Gwasanaethau Ffrydio • Recordio Darlithoedd Dyddiad cyflwyno: 18 Ebrill 2014. Croesawn yn arbennig gyfraniadau gan ymarferwyr newydd. Croesawn bob math o gyflwyniad a gogwydd. Bydd yna dri fformat cyflwyniad gwahanal: 1. Sesiwn 30 munud gan gynnwys amser ar gyfer cwestiynaw. 2. A slot cyfwyniad 15 munud – cwestiynaw yn ddewisol. 3. A slot 5 munud yn olynol gyda chyflwyniadaw eraill o natur tebyg, gyda chwestiynau ir siaradwyr I gyd ar ddiwedd y sesiwn. Rydym yn croesawu pob fformat a dull. Bydd arddangosfeydd, cyflwyniadau a chyfleoedd, gwrdd â’n noddwyr, yn ogystal â chyfle, siarad â chynrycholwyr eraill. Os gwelwch yn dda, e-bostiwch eich cynigion I is-gregynog@aber.ac.uk