Gregynog Cynhadledd Gregynog 10fed–13eg Mehefin 2014: Galw am Bapurau  Thema: “Ailfeddwl  y Dyfodol: Bodloni staff a myfyrwyr ar adeg pan fo adnoddau’n lleihau a disgwyliadau’n cynyddu”. Bob blwyddyn mae HEWIT a WHELF yn trefnu cynhadledd breswyl ym Mhlas Gregynog, canolfan gynadleddau Prifysgol Cymru. Mae hwn yn gyfle blynyddol i staff TG a Llyfrgell ac ymarferwyr ar bob lefel i gydweithio a rhannu ymarfer gorau i wella bodlonrwydd defnyddwyr. Prifysgol Aberystwyth sy’n trefnu Cynhadledd eleni a’r thema yw: “Ailfeddwl  y Dyfodol: Bodloni staff a myfyrwyr ar adeg pan fo adnoddau’n lleihau a disgwyliadau’n cynyddu”. Rydym yn ceisio papurau, cyflwyniadau a gweithdai (sy’n ymwneud â TG a Llyfrgelloedd) ar y themâu canlynol: 1.       Hyrwyddo llythrennedd digidol staff a myfyrwyr 2.       Cefnogi’r defnydd o wybodaeth ddadansoddeg/busnes i drwytho penderfyniadau a chynllunio 3.       Rheoli storio data a mynediad diogel i ddata ac adnoddau mewn awyrgylch agored, yn enwedig data ymchwil Ynghlwm wrth y rhain ceir pynciau megis BYOD (Dewch â’ch Dyfais eich Hun) mewn ystafelloedd dosbarth, Cydweithio ym maes Pwrcasu a chynnig Cymorth o Bell. Dyddiad cyflwyno: 31 Mawrth 2014. Croesawn yn arbennig gyfraniadau gan ymarferwyr newydd. Croesawn bob math o gyflwyniad a gogwydd. Os gwelwch yn dda, e-bostiwch eich cynigion I is-gregynog@aber.ac.uk