DysgGwrdd WHELF rhad ac am ddim 16/12/2020
Mae Grŵp Dysgu ac Addysgu WHELF yn eich gwahodd i’n DysgGwrdd rhad ac am ddim ar ddydd Mercher 16eg Rhagfyr 11am-12pm: ‘A oes unrhyw un yno? Dysgu ac addysgu gyda myfyrwyr o bell’.
Cynhelir y DysgGwrdd ar Zoom a bydd yn cynnwys y canlynol:
Croeso
Sarah Jones, Cadeirydd Grŵp Dysgu ac Addysgu WHELF, Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant.
Creu sesiynau tiwtorial llyfrgell rhyngweithiol gyda LibWizard
Jose Lopez Blanco, Prifysgol De Cymru
Creu cynnwys llyfrgell ar-lein trwy ddefnyddio Microsoft Sway ac Articulate Storyline
Alice de Angeli a Peter Duffield-Fuller, Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant
Mae pethau’n newid: astudiaeth enghreifftiol o ddysgu ac addysgu anghydamserol mewnblanedig
Rebecca Mogg a Neil Pollock, Prifysgol Caerdydd
I fynd gyda’r DysgGwrdd rydym wedi sefydlu’r Padled hwn a byddem yn eich annog i’w ddefnyddio i rannu beth weithiodd yn dda ichi ac i chwilio am syniadau i oresgyn rhai o’r heriau rydych wedi’u hwynebu: https://padlet.com/philippaprice/WHELFDec20.
Mae siwmperi Nadolig yn cael eu hannog a dewch â’ch danteithion tymhorol gyda chi.
Os hoffech ddod, dylech archebu lle yma . Y dyddiad cau ar gyfer archebion yw 5pm ar 14 Rhagfyr. Danfonir gwybodaeth am ymuno at bawb a gofrestrodd ar 15 Rhagfyr.
Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni. Rydym yn annog holl aelodau cymuned WHELF i ddefnyddio’r Padled, ac nid y sawl a gofrestrodd yn unig.
Rebecca Mogg a Philippa Price (ar ran Grŵp Dysgu ac Addysgu WHELF).