Hoffem eich gwahodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar 23ain Medi i wrando ar ein profiadau gyda cadwrfeydd, digido a deunydd digidanedig. Mae’r diwrnod wedi ei anelu at gyd-ymarferwyr ac yn canolbwyntio ar weithrediadau a gwasanaethau yn hytrach na phrosiectau. Hoffem wahodd cydweithwyr WHELF LMS, cydweithwyr Cadwrfa WHELF ac unrhyw Archifyddion Brifysgol a all fod â diddordeb. Mae’r agenda arfaethedig fel a ganlyn:

10:30 – 11:00 Coffi
11:00 – 11:30 Cadwrfeydd yn LlGC
11:45 – 11:30 Cyd-destun ARCW
11:45 – 12:15 Archivematica ac amlyncu
12:15 – 12:30 Preservica
12:30 – 13:00 Cyflwyniad i MabLab (fforensig)

13:00 – 14:00 Cinio

14:00 – 14:20 Gwaith y stiwdio digido
14:20 – 14:30 Digido Sgrîn a Sain
14:30 – 15:15 Ymweliad â’r stiwdio digido

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn y Drwm. Rydym yn gobeithio y bydd y diwrnod yn llawn gwybodaeth os ydych yn cynllunio unrhyw rai o’r gwasanaethau uchod yn eich sefydliad eich hun a hefyd yn dangos pa wasanaethau y gall Llyfrgell Genedlaethol Cymru eu cynnig petai eu hangen. Os hoffech fynychu’r digwyddiad uchod cysylltwch â Iona Bailey (iona.bailey@llgc.org.uk).

Diolch ac edrychwn ymlaen at eich gweld ar y 23ain.

Glen Robson
Pennaeth Uned Systemau
Llyfrgell Genedlaethol Cymru