Yn dilyn llwyddiant cynhadledd Lleisiau Eithriedig y llynedd mae WHELF yn trefnu cynhadledd undydd arall am ddim i’w chynnal ar-lein ar 29 Mehefin 2022. Hoffem wahodd cydweithwyr o lyfrgelloedd, amgueddfeydd a chyrff yn y sector treftadaeth ar draws y DU i gyflwyno crynodebau ar gyfer y gynhadledd.
Rydym ni’n chwilio am grynodebau ar gyfer prif anerchiadau (20 munud) a sgyrsiau mellt (10 munud).
Yn 2022, byddwn yn adeiladu ar y themâu sylfaenol a osodwyd yn y gynhadledd Lleisiau Eithriedig gyntaf. Ein bwriad yw ymdrin â chynwysoldeb a hygyrchedd lleoedd (ffisegol ac ar-lein) ac edrych ar y ffyrdd y gall croestoriadedd lleisiau lunio polisïau, casgliadau, gwasanaethau a diwylliant sefydliadol. Bydd Lleisiau Eithriedig 2022 yn arddangos y ffyrdd y gallwn barhau â gwaith i chwalu rhwystrau lle bynnag rydym ni’n eu canfod.
Bydd pynciau perthnasol ar gyfer cyflwyniadau’n cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain):
- Hygyrchedd a/neu gynwysoldeb lleoedd (ffisegol a digidol)
- Asesiad beirniadol o duedd yn ein strwythurau a’n polisïau
- Sicrhau amrywiaeth yn y proffesiynau llyfrgell/treftadaeth
- Gweithio trawsnewidiol/heini
- Rhoi sylw i leisiau eithriedig wrth lunio polisïau, casgliadau, gwasanaethau a diwylliant sefydliadol
- Polisïau ac arferion gwrth-hiliol a chynhwysol yn ein sectorau
- Croestoriadedd
- Gweithio gyda chymunedau
- Amrywio casgliadau, cwricwla a rhestrau darllen
I gyflwyno eich crynodeb cwblhewch y templed a’i ddychwelyd i Gill Morris Swyddog Datblygu WHELF erbyn 11 Ebrill 2022
Byddwn yn cysylltu â chi erbyn 6 Mai 2022 i gadarnhau derbyn eich crynodeb.
Bwriadwn recordio’r cyflwyniadau i gyd i’w cynnwys ar ein tudalen Rhyngrwyd er budd cydweithwyr ar draws y sector.
Gyda diolch i JISC am y cymorth technegol.