Digwyddiad: Llyfrgellwyr yn Cefnogi’r Broses Ymchwil
Digwyddiad Grŵp Ymchwil WHELF
Ymunwch â ni i glywed gan ymchwilwyr rydym wedi gwahodd i siarad am eu proses ymchwil nhw, yr adegau straenus, a’r gefnogaeth ddefnyddiol a gânt gan y gwasanaeth llyfrgell. Mae gennym hefyd siaradwr gwadd, Dr Penny Dowdney, fydd yn rhannu ei harbenigedd mewn cefnogi datblygiad ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor a thrwy Vitae, sefydliad yn y Deyrnas Unedig sy’n cefnogi datblygiad personol a phroffesiynol myfyrwyr a staff ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch a sefydliadau ymchwil. Bydd hwn yn ddigwyddiad rhwydweithio i’r holl lyfrgellwyr sy’n gweithio ym maes cefnogi ymchwil, neu â diddordeb ynddo, lle byddwn yn trafod y gefnogaeth a rown ar hyn o bryd i ymchwilwyr ac ystyried sut gallwn godi ymwybyddiaeth a marchnata ein gwasanaethau i ymchwilwyr.
8th May 1pm-4pm Prifysgol Caerdydd, archebwch eich lle yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/librarians-supporting-the-research-lifecycle-tickets-33493811893
9th May 10am-2pm, Prifysgol Abertawe, archebwch eich lle yma: https://www.eventbrite.com/e/librarians-supporting-the-research-lifecycle-tickets-33497817875
10th May 1pm-4pm Prifysgol Bangor, cysylltwch â Chris Roberts c.a.roberts@bangor.ac.uk i archebu lle