Dyma gyd ymateb CILIP Cymru, WHELF, y Llyfrgell Genedlaethol, Llyfrgelloedd GIG a Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru i Strategaeth Ddigidol (ddrafft)  Llywodraeth Cymru. Gallwch lawr lwytho’r adroddiad llawn o’r ddolen, mae’r prif argymhellion isod.  Prif Argymhellion  Argymhelliad 1: Dysgu o bolisïau blaenorol  Credwn fod y Strategaeth Ddigidol i Gymru yn adeiladu ar waddol o  bolisïau ar gyfer Cymru a gweddill gwledydd Prydain trwy ddyheadau  digidol bras. Byddem yn argymell y dylai’r gwaith o ddatblygu’r polisi  fanteisio ar a chyfeirio at bolisïau blaenorol,a cheisio canfod ynddynt  unrhyw ffactorau allai rwystro ei gweithredu.  Argymhelliad 2: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Strategaeth  I fod yn effeithiol, rhaid i Strategaeth Ddigidol i Gymru gynnwys llinellau  cyfrifoldeb clir, deilliannau mesuradwy ac ymrwymiad cyllidebol pwrpasol.Rydym yn argymell y dylai’r Strategaeth gynnwys Cynllun Gweithredu sy’n manylu ar yr elfennau hyn yng nghyd-destun cyfrifoldebau, targedau a dyraniadau gwario presennol. Argymhelliad 3: Cadwraeth a pharhad digidol  Fel y gŵyr Llywodraeth Cymru, mae mecanweithiau effeithiol ar gyfer  cynnal a chadw’r cofnod digidol yn allweddol i barhad ac atebolrwydd am ddatblygiad digidol. Argymhellwn y dylai’r strategaeth genedlaethol fras  hon roi ystyriaeth i’r seilwaith a’r sgiliau sydd eu hangen i werthuso, storio diogelua darparu mynediad at asedau digidol yn yr hirdymor.  Argymhelliad 4: Llythrennedd data a gwybodaeth  Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru gydnabod pwysigrwydd  llythrennedd data a gwybodaeth fel cymwyseddau craidd ar gyfer  cenedlaethau’r dyfodol, ac y dylid eu gwreiddio mewn cwricwla  mewn ysgolion,  Addysg Bellach ac Addysg Uwch.  Argymhelliad 5: Strategaeth Sgiliau Digidol   Mae’r strategaeth ddrafft yn cydnabod yn briodol iawn yr angen i fuddsoddi mewn uwch sgiliau digidol, gwybodaeth a data er mwyn creu gweithlu …

Strategaeth Ddigidol Llywodraeth Cymru Read more »

WHELF: Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru Llythyr Agored at y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru : Llyfrgell Genedlaethol Cymru Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgorffori mewn deddfwriaeth egwyddorion sylfaenol dinasyddiaeth gynhwysol, llesiant a ffyniant cenedlaethol yn Neddf Llesiant …

Llythyr Agored at y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru Read more »

Lleisiau Eithriedig:Cynhadledd WHELF Mae WHELF yn trefnu cynhadledd undydd rad ac am ddim ar Leisiau Eithriedig a’n Casgliadau a gynhelir ar-lein, ar yr 22ain Ebrill 2021. Hoffem wahodd cydweithwyr o lyfrgelloedd, amgueddfeydd a sefydliadau sector treftadaeth ar draws gwledydd Prydain …

Lleisiau Eithriedig:Cynhadledd WHELF – galw am bapurau Read more »

Mae Adroddiad Blynyddol WHELF ar gyfer y flwyddyn academaidd 2018-19 bellach ar gael. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at waith cyfunol WHELF ynghyd â newyddion a datblygiadau gan sefydliadau WHELF. Adroddiad Blynyddol WHELF 2018-19 Croeso i adroddiad WHELF ar gyfer …

Adroddiad Blynyddol WHELF 2018-19 Read more »

Bydd Jenny McNally yn dechrau fel Rheolwr Busnes WHELF LMS ar 27 Mehefin. Mae Jenny wedi gweithio mewn llyfrgelloedd academaidd am dros 15  mlynedd mewn rolau fel catalogio, rheoli casgliadau a rheoli e-adnoddau. Mae hefyd wedi gweithio ar brosiect gyda Mimas yn llwytho data …

Rheolwr Busnes ar gyfer System Rheoli Llyfrgell ar y cyd WHELF Read more »

Sorry, this entry is only available in Saesneg Prydain. For the sake of viewer convenience, the content is shown below in the alternative language. You may click the link to switch the active language. The WHELF Annual Report for the …

Adroddiad Blynyddol WHELF 2017-18 Read more »

  Gyda diolch i John Dalling (Uwch Ymgynghorydd Adnoddau Dysgu, PCYDDS) ar gyfer y cyntaf o’n swyddi blog o garfan 2.     Ynglŷn â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Sefydlwyd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn …

Symud systemau etifeddol lluosog ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i System Rheoli Llyfrgell a Rennir WHELF Read more »