Ysgrifena Catherine Finch, Llyfrgellydd Casgliadau Prifysgol De Cymru: DigiFest 2022: what really happened. This year’s DigiFest showcased the latest education technology and reflected on pandemic teaching and learning experiences.  It took place in the ICC at the heart of Birmingham …

Jisc DigiFest 2022 Read more »

Dewiswyd rhaglen hyfforddi a datblygu Estyn Allan fel enillydd Gwobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru CILIP Cymru Wales. Dyfarnwyd yr ail safle yn gydradd i Wasanaeth Llyfrgell Coleg Sir Gâr a Gwasanaeth Llyfrgell a Thechnoleg Dysgu Grŵp Llandrillo Menai, a’r …

CILIP Cymru Wales yn cyhoeddi rhestr fer ac enillydd Gwobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru Read more »

Dyma gyd ymateb CILIP Cymru, WHELF, y Llyfrgell Genedlaethol, Llyfrgelloedd GIG a Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru i Strategaeth Ddigidol (ddrafft)  Llywodraeth Cymru. Gallwch lawr lwytho’r adroddiad llawn o’r ddolen, mae’r prif argymhellion isod.  Prif Argymhellion  Argymhelliad 1: Dysgu o bolisïau blaenorol  Credwn fod y Strategaeth Ddigidol i Gymru yn adeiladu ar waddol o  bolisïau ar gyfer Cymru a gweddill gwledydd Prydain trwy ddyheadau  digidol bras. Byddem yn argymell y dylai’r gwaith o ddatblygu’r polisi  fanteisio ar a chyfeirio at bolisïau blaenorol,a cheisio canfod ynddynt  unrhyw ffactorau allai rwystro ei gweithredu.  Argymhelliad 2: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Strategaeth  I fod yn effeithiol, rhaid i Strategaeth Ddigidol i Gymru gynnwys llinellau  cyfrifoldeb clir, deilliannau mesuradwy ac ymrwymiad cyllidebol pwrpasol.Rydym yn argymell y dylai’r Strategaeth gynnwys Cynllun Gweithredu sy’n manylu ar yr elfennau hyn yng nghyd-destun cyfrifoldebau, targedau a dyraniadau gwario presennol. Argymhelliad 3: Cadwraeth a pharhad digidol  Fel y gŵyr Llywodraeth Cymru, mae mecanweithiau effeithiol ar gyfer  cynnal a chadw’r cofnod digidol yn allweddol i barhad ac atebolrwydd am ddatblygiad digidol. Argymhellwn y dylai’r strategaeth genedlaethol fras  hon roi ystyriaeth i’r seilwaith a’r sgiliau sydd eu hangen i werthuso, storio diogelua darparu mynediad at asedau digidol yn yr hirdymor.  Argymhelliad 4: Llythrennedd data a gwybodaeth  Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru gydnabod pwysigrwydd  llythrennedd data a gwybodaeth fel cymwyseddau craidd ar gyfer  cenedlaethau’r dyfodol, ac y dylid eu gwreiddio mewn cwricwla  mewn ysgolion,  Addysg Bellach ac Addysg Uwch.  Argymhelliad 5: Strategaeth Sgiliau Digidol   Mae’r strategaeth ddrafft yn cydnabod yn briodol iawn yr angen i fuddsoddi mewn uwch sgiliau digidol, gwybodaeth a data er mwyn creu gweithlu …

Strategaeth Ddigidol Llywodraeth Cymru Read more »

Lleisiau Eithriedig:Cynhadledd WHELF Mae WHELF yn trefnu cynhadledd undydd rad ac am ddim ar Leisiau Eithriedig a’n Casgliadau a gynhelir ar-lein, ar yr 22ain Ebrill 2021. Hoffem wahodd cydweithwyr o lyfrgelloedd, amgueddfeydd a sefydliadau sector treftadaeth ar draws gwledydd Prydain …

Lleisiau Eithriedig:Cynhadledd WHELF – galw am bapurau Read more »

Meddai Amy Staniforth: Cafodd Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru a Llyfrgell Ardal y Drenewydd eu cydnabod gan CILIP Cymru Wales, y gymdeithas Llyfrgelloedd a Gwybodaeth yng Nghymru, am eu hymrwymiad anhygoel a’u gwasanaethau blaengar yn ystod 2020 gythryblus. Mae’r Wobr, …

Tîm Llyfrgell y Flwyddyn Cymru – ail le i dîm WHELF! Read more »