Dyma gyd ymateb CILIP Cymru, WHELF, y Llyfrgell Genedlaethol, Llyfrgelloedd GIG a Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru i Strategaeth Ddigidol (ddrafft) Llywodraeth Cymru. Gallwch lawr lwytho’r adroddiad llawn o’r ddolen, mae’r prif argymhellion isod. Prif Argymhellion Argymhelliad 1: Dysgu o bolisïau blaenorol Credwn fod y Strategaeth Ddigidol i Gymru yn adeiladu ar waddol o bolisïau ar gyfer Cymru a gweddill gwledydd Prydain trwy ddyheadau digidol bras. Byddem yn argymell y dylai’r gwaith o ddatblygu’r polisi fanteisio ar a chyfeirio at bolisïau blaenorol,a cheisio canfod ynddynt unrhyw ffactorau allai rwystro ei gweithredu. Argymhelliad 2: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Strategaeth I fod yn effeithiol, rhaid i Strategaeth Ddigidol i Gymru gynnwys llinellau cyfrifoldeb clir, deilliannau mesuradwy ac ymrwymiad cyllidebol pwrpasol.Rydym yn argymell y dylai’r Strategaeth gynnwys Cynllun Gweithredu sy’n manylu ar yr elfennau hyn yng nghyd-destun cyfrifoldebau, targedau a dyraniadau gwario presennol. Argymhelliad 3: Cadwraeth a pharhad digidol Fel y gŵyr Llywodraeth Cymru, mae mecanweithiau effeithiol ar gyfer cynnal a chadw’r cofnod digidol yn allweddol i barhad ac atebolrwydd am ddatblygiad digidol. Argymhellwn y dylai’r strategaeth genedlaethol fras hon roi ystyriaeth i’r seilwaith a’r sgiliau sydd eu hangen i werthuso, storio diogelua darparu mynediad at asedau digidol yn yr hirdymor. Argymhelliad 4: Llythrennedd data a gwybodaeth Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru gydnabod pwysigrwydd llythrennedd data a gwybodaeth fel cymwyseddau craidd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac y dylid eu gwreiddio mewn cwricwla mewn ysgolion, Addysg Bellach ac Addysg Uwch. Argymhelliad 5: Strategaeth Sgiliau Digidol Mae’r strategaeth ddrafft yn cydnabod yn briodol iawn yr angen i fuddsoddi mewn uwch sgiliau digidol, gwybodaeth a data er mwyn creu gweithlu …
Strategaeth Ddigidol Llywodraeth Cymru Read more »