Y llynedd bu i’r Grŵp Archifau a Chasgliadau Arbennig hynod fwynhau cymryd rhan yn yr ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol, sef ‘Colour Our Collections’, a gynhaliwyd gan y New York Academy of Medicine Library, a alluogodd ni i ymuno â llyfrgelloedd, archifau, ac amgueddfeydd ledled y byd i rannu taflenni lliwio am ddim ar sail y deunyddiau yn ein casgliadau. Rydym wedi penderfynu cymryd rhan eto pan fydd yn cael ei gynnal o 4-8 Chwefror 2019 a’n thema’r tro hwn yw Blwyddyn Darganfod! Lawrlwythwch gopi o’n llyfr lliwio yma [PDF], argraffwch y taflenni a rhannwch eich lluniau lliwgar ar gyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio’r hashnod #lliwiwcheincasgliadau (oherwydd bod yr ymgyrch wedi’i lansio yn America, mae’r rhan fwyaf o sefydliadau yn defnyddio’r sillafiad Americanaidd o’r gair ‘colour’!), #lliwioeincasgliadau, a thagiwch ni: @WHELFed. …