Hyfforddiant AdvanceHE – cais llwyddiannus WHELF i gronfa Kathleen Cooks
Mae WHELF yn falch iawn i gyhoeddi bod eu cais i gronfa Kathleen Cooks i gyflwyno hyfforddiant gwrth-hiliaeth Advance HE i reolwyr ar draws WHELF wedi llwyddo.
Yn dilyn sesiynau hyfforddi cychwynnol AdvanceHE ar Leading Change on Race Equality in Academic and Research Libraries ym mis Hydref 2022, cyflwynodd Tracey Stanley (Cyfarwyddwr Llyfrgelloedd Prifysgol a Llyfrgellydd Prifysgol Caerdydd) y cais i CILIP Cymru ar ran WHELF.
Diolch i Tracey, Amy Staniforth a CILIP Cymru.