Colociwm Blynyddol WHELF 2021
Yno ac yn ôl eto: defnyddio gwersi a ddysgwyd o’r pandemig i lywio gwasanaethau llyfrgell y dyfodol.
Mae Colociwm WHELF ar-lein eto eleni. Mae ein rhaglen yn edrych ar sut rydym wedi addasu gwasanaethau ac arloesi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a cheir cyfle i fyfyrio a thrafod beth allem ei ddefnyddio eto yn y dyfodol. Gellir archebu lleoedd ar y digwyddiad rhithiol hwn yn rhad ac am ddim, felly cofiwch ymuno â ni ar gyfer ein cyfarfyddiad blynyddol ar dydd Mercher 9fed Mehefin 2021, 10:00 – 16:30
10:00 Croeso a chyflwyniad gan Alison Harding Cadeirydd WHELF
10:05 Prif Araith (Steve Williams – Pennaeth Llyfrgelloedd, Archifau, Diwylliant a’r Celfyddydau, Prifysgol Abertawe)
10:35 Panel 1 (cyflwynir gan Claire Wotherspoon – Y Brifysgol Agored)
Symud hyfforddiant llythrennedd gwybodaeth ar-lein: heriau, dulliau, effaith a gwersi i’r dyfodol (Nicola Jones – Prifysgol Caerdydd)
Symud Dyddiau Agored ar-lein yn Abertawe: Cyfraniad ein llyfrgelloedd (Bernie Williams, Sian Neilson a James Broomhall– Prifysgol Abertawe)
11:25 Egwyl hwylus
11:35 Sesiwn trafod profiadau a rannwyd: Rhestri darllen / Hyfforddiant Llythrennedd Gwybodaeth ar-lein
12:00 Cinio
13:00 Panel 2 (cyflwynir gan Andrew Dalgleish – Prifysgol De Cymru)
Diweddariad ar SRhLl WHELF a rannwyd: diweddariad ar weithgareddau SRhLl WHELF wrth addasu i fyd heb Covid (Jenny McNally – Rheolydd SRhLl WHELF)
Ail-ddyfeisio gyda WHEEL: Sut mae caffael adnoddau wedi newid gydag amser (Tom Francis – Prifysgol Aberystwyth, John Dalling – PCYDDS)
13:50 Sesiwn trafod profiadau a rannwyd: Gwersi a ddysgwyd o’r pandemig.
14:15 Egwyl hwylus
14:25 Panel 3 (cyflwynir gan Gill Morris – WHELF/ Prifysgol Abertawe)
Help! Sut allwn ni agor y llyfrgell? : Adeiladu gwasanaethau rheng flaen ar y cyd yn ystod pandemig (Bernadette Ryan, Prifysgol De Cymru)
Cefnogi dysgu cyfunol ar gyfer pynciau ymarferol iawn (Sally Brockway a Judith Dray – CBCDDC)
Dirprwyon digidol: ffyrdd ymlaen ar gyfer gallu defnyddio archifau & chasgliadau arbennig (Kristine Chapman, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Alan Hughes, Prifysgol Caerdydd, Sian Williams, Prifysgol Abertawe)
15:45 Cwis (Mark Hughes – Met Caerdydd)
16:15 Sylwadau clo gan Alison Harding, Cadeirydd WHELF
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm digwyddiadau Jisc neu â Gill Morris, WDO.