Gair am WHELF

Mae Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF) yn grŵp o Brif Lyfrgellwyr a Chyfarwyddwyr Gwasanaethau Gwybodaeth o’r holl sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

Datblygodd WHELF o’r cyfarfodydd anffurfiol ond rheolaidd a oedd yn cael eu cynnal rhwng Prif Lyfrgellwyr Prifysgol Cymru yn y 1980au ac, ym 1990, cafodd y fforwm hwn ei enwi’n Bwyllgor Cydlynu Llyfrgelloedd Prifysgol Cymru. Ym 1993, estynnwyd aelodaeth y Pwyllgor i gynnwys Prif Lyfrgellwyr holl sefydliadau addysg uwch Cymru. Er mwyn adlewyrchu rôl ddiwygiedig y grŵp, cafodd ei ailgyfansoddi fel Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru.

Cenhadaeth WHELF: cydweithio a phartneriaeth
Cenhadaeth WHELF yw hyrwyddo cydweithio rhwng llyfrgelloedd a gwasanaethau gwybodaeth, annog cyfnewid syniadau, darparu fforwm ar gyfer cyd-gefnogaeth a helpu i hwyluso mentrau newydd wrth ddarparu gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth.

Mae WHELF yn hyrwyddo gwaith llyfrgelloedd sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ac yn darparu canolbwynt ar gyfer datblygu syniadau a gwasanaethau newydd.

Er lles ein llyfrgelloedd, ein sefydliadau a’n defnyddwyr, ein nod yw:

  • Codi proffil a gwerth gwasanaethau a datblygiadau gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth sefydliadau addysg uwch Cymru, yn ein sefydliadau ein hun, yng Nghymru a’r tu hwnt;
  • Dylanwadu ar lunwyr polisi ac arianwyr mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin;
  • Cyflwyno gwasanaethau a datblygiadau cydweithredol er lles sefydliadau sy’n aelodau a’u defnyddwyr;
  • Gweithio gyda sefydliadau, sectorau a pharthau eraill i gefnogi datblygiad rhwydwaith cydweithredol o lyfrgelloedd yng Nghymru a’r DU;
  • Cefnogi ein gilydd a darparu cyfleoedd i rannu arfer da drwy gyfarfodydd, rhestrau postio etc;
  • Darparu cyfleoedd datblygu a hyfforddi staff i sefydliadau sy’n aelodau.

Cadeirydd WHELF:  Mark Hughes
Is-gadeirydd WHELF: Tracey Stanley
Trysorydd WHELF: Julie Hart
Swyddog Datblygu WHELF: Gill Morris

Cynrychiolwyr WHELF

Mae WHELF wedi llunio strategaeth newydd a’i diben yw amlinellu gweledigaeth glir ar gyfer WHELF dros y pedair flynedd nesaf:

Wales-Higher-Education-Libraries-Forum-Strategy-2020-2024-1

Strategaeth-Fforwm-Llyfrgelloedd-Addysg-Uwch-Cymru-2020-2024-1