Thema: “Ailfeddwl y Dyfodol: Bodloni staff a myfyrwyr ar adeg pan fo adnoddau’n lleihau a disgwyliadau’n cynyddu”.

Bob blwyddyn mae HEWIT a WHELF yn trefnu cynhadledd breswyl ym Mhlas Gregynog, canolfan gynadleddau Prifysgol Cymru. Mae hwn yn gyfle blynyddol i staff TG a Llyfrgell ac ymarferwyr ar bob lefel i gydweithio a rhannu ymarfer gorau i wella bodlonrwydd defnyddwyr.

Prifysgol Aberystwyth sy’n trefnu Cynhadledd eleni a’r thema yw: “Ailfeddwl y Dyfodol: Bodloni staff a myfyrwyr ar adeg pan fo adnoddau’n lleihau a disgwyliadau’n cynyddu”.

Rydym yn ceisio papurau, cyflwyniadau a gweithdai (sy’n ymwneud â TG a Llyfrgelloedd) ar y themâu canlynol:

1. Hyrwyddo llythrennedd digidol staff a myfyrwyr
2. Cefnogi’r defnydd o wybodaeth ddadansoddeg/busnes i drwytho penderfyniadau a chynllunio
3. Rheoli storio data a mynediad diogel i ddata ac adnoddau mewn awyrgylch agored, yn enwedig data ymchwil

Ynghlwm wrth y rhain ceir pynciau megis BYOD (Dewch â’ch Dyfais eich Hun) mewn yr ystafelloedd dosbarth.
Maer pynciau yn eang ac yn gallu cynnwys:

• Defnyddio catalog
• Siarad â Llyfrgellydd
• E-ddysgu
• Cefnogaeth i ddyfeisiau symudol mewn ysgolion astudio
• Materion yn ymwneud â’r rhwydwaith
• Sefydlu dyfeisiadau
• Cefnogi rhychwant eang o ddyfeisiadau
• Diwifr a lled band
• Defnyddio BYOD yn yr ystafell ddosbarth. Arddangos o bell, systemau ymateb, ac ati
• Mynediad corfforaethol/rheoli data, a rheoli dyfeisiadau corfforaethol

Cydweithio yn meysydd fel caffael mewn pwnc bras sydd yn gallu cofleidio materion eraill fel:

• Systemau Rheoli Dysgu
• Casgliadau arbennig
• Pwrcasu ar y cyd
• Rhestri darllen
• Pwrcasu ar y cyd
• Cloud
• Rhoi ar gontract allanol
• Rheoli storio data
• Mynediad diogel i ddata, yn enwedig data ymchwil
• Llythrennedd digidol
• Defnyddio gwybodaeth ddadansoddeg/busnes i drwytho penderfyniadau a chynllunio

A hefyd darparu cefnogaeth o bell a all gynnwys ond nid yn gyfyngedig i

• Anghenion Myfyrwyr Rhyngwladol
• Gwasanaeth Cwsmeriaid 24/7
• Dysgu o Bell
• Mynediad agored
• Mynediad Agored
• Storfeydd
• Cymorth TG
• Sgwrsio Byw
• Campysau Pell
• Gwasanaethau Ffrydio
• Recordio Darlithoedd

Dyddiad cyflwyno: 18 Ebrill 2014.
Croesawn yn arbennig gyfraniadau gan ymarferwyr newydd.
Croesawn bob math o gyflwyniad a gogwydd.

Bydd yna dri fformat cyflwyniad gwahanal:

1. Sesiwn 30 munud gan gynnwys amser ar gyfer cwestiynaw.
2. A slot cyfwyniad 15 munud – cwestiynaw yn ddewisol.
3. A slot 5 munud yn olynol gyda chyflwyniadaw eraill o natur tebyg, gyda chwestiynau ir siaradwyr I gyd ar ddiwedd y sesiwn.

Rydym yn croesawu pob fformat a dull.

Bydd arddangosfeydd, cyflwyniadau a chyfleoedd, gwrdd â’n noddwyr, yn ogystal â chyfle, siarad â chynrycholwyr eraill.

Os gwelwch yn dda, e-bostiwch eich cynigion I is-gregynog@aber.ac.uk