Datganiad i’r Wasg: Prifysgolion Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgelloedd GIG yng Nghymru yn dewis System Rheoli Llyfrgelloedd a rennir

Rydym yn falch o gyhoeddi bod consortiwm o Brifysgolion Cymru, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a Llyfrgelloedd GIG Cymru, wedi dewis y system unedig rheoli adnoddau Ex Libris Alma, a system unedig ar gyfer darganfod a chyflwyno adnoddau Ex Libris Primo er mwyn darparu System Rheoli Llyfrgelloedd newydd a rennir ar gyfer y sector.

Mae Consortiwm WHELF (Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru ) wedi dewis systemau Alma a Primo, yn dilyn proses dewis ac asesu drwyadl. Y 10 llyfrgell yng nghonsortiwm WHELF yw Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glyndŵr, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Llyfrgelloedd GIG Cymru drwy Gonsortiwm AWHILES .

Meddai Aled Gruffydd Jones, sef Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chadeirydd WHELF: “mae holl aelodau WHELF yn disgwyl gwireddu buddion trawsffurfiannol yn sgil ein cydweithredu ar system Llyfrgelloedd a rennir, gan gynnwys darparu rhyngwyneb dwyieithog unigol ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru ac ymchwil, yn ogystal â’r potensial ar gyfer cydweithio mwy dwys o ran datblygu a rheoli casgliadau ”.

Ar hyn o bryd, mae aelodau Consortiwm WHELF yn defnyddio amrywiaeth o Systemau Rheoli Llyfrgelloedd unigol, a nifer o systemau darganfod gwahanol. Wrth ddewis Ex Libris fel darparwr unigol, bydd y Consortiwm yn darparu system llyfrgell unigol seiliedig ar gwmwl, y genhedlaeth nesaf, wedi’i chyflwyno ar sail meddalwedd fel gwasanaeth (SaaS).

Bydd Alma a Primo yn darparu system unedig ar gyfer rheoli a darganfod adnoddau, ac yn galluogi aelodau WHELF i fabwysiadau llifoedd gwaith a rennir, wedi’u symleiddio, wrth ehangu cyfleoedd ar gyfer cydweithio ar draws y Consortiwm.

Aled Gruffydd Jones
Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedalethol Cymru

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Gareth Owen
Rheolwr Rhaglen
System Rheoli Llyfrgell a Rennir WHELF (LMS)
OwenG12@cardiff.ac.uk / 029 20874014