Bydd Jenny McNally yn cychwyn fel Rheolwr Busnes LMS WHELF ar y 27ain o Fehefin.

Mae Jenny wedi gweithio mewn llyfrgelloedd academaidd am dros 15  mlynedd mewn rolau fel catalogio, rheoli casgliadau a rheoli e-adnoddau. Mae hefyd wedi gweithio ar brosiect gyda Mimas yn llwytho data o gyfraniadau newydd i Copac. Yn fwy diweddar, mae wedi gweithio ym maes rheoli systemau, gan chwarae rôl allweddol wrth roi Alma a Primo ar waith ym Mhrifysgol Salford.

Bydd Jenny hefyd yn parhau fel Llyfrgellydd Digidol yn Salford ac wedi’i lleoli ym Manceinion. Ei diwrnodau gwaith ar gyfer WHELF fydd dydd Iau a dydd Gwener.