Yn y Senedd nos Fawrth arysgrifiwyd wyth darn newydd o dreftadaeth ddogfennol ar Gofrestr DU Cof y Byd UNESCO.  Un eitem o Gymru yn unig oedd ymysg yr eitemau hyn, sef yr Arolwg o Faenorau Crucywel a Thretŵr, a luniwyd gan Robert Johnson yn 1587 ac sydd bellach yng ngofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r arolwg hwn yn rhan o Gasgliad Badminton yng Nghasgliad Mapiau’r Llyfrgell.  Fel arolygon stad eraill o’r cyfnod mae’n cynnwys disgrifiad testunol o’r stad, ei faint, ei eiddo a’i thenantiaid; ond yn wahanol i arolygon eraill mae’r arolwg hwn hefyd yn cynnwys set o fapiau a luniwyd fel rhan o’r arolwg.  Hwn yw’r esiampl cynharaf o atlas stad fawr a ddyluniwyd fel cyfrol cydlynol o fapiau stad addurnol. Mwy o wybodaeth yn y blog yma http://www.llgc.org.uk/blog/?lang=cy Datganiad i’r wasg yma: https://www.llgc.org.uk/cy/gwybodaeth-i/y-wasg-ar-cyfryngau/datganiadaur-wasg/datganiadaur-wasg-2016/prif-weinidog-cymru-yn-dathlur-dyfarniad-o-statws-cof-y-byd-unesco-i-gasgliadau-hanesyddol-nodedig/ Prif Weinidog Cymru yn dathlu’r dyfarniad o statws Cof y Byd UNESCO i gasgliadau hanesyddol nodedig.