Diolch i Sally McInnes (Casgliadau Unigryw, Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ar gyfer yr adroddiad hwn:

Cynhadledd Grŵp Archifau a Chasgliadau Arbennig WHELF/ARCW

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mai 19, 2016

Ers 2008, mae staff Isadran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru wedi cydweithio ag archifwyr, cadwraethwyr a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cadwraeth Llawysgrifau (NMCT) i ddiogelu a darparu mynediad at gasgliadau archifol. Mae cynllun grantiau NMCT yn cynnig cyfle i gyllido’n llawn prosiectau cadwraethol ar lawysgrifau. Mae 15 o sefydliadau cymwys wedi manteisio ar y cynllun hyd yma, ac mae cyfanswm o dros ddau gan mil o bunnoedd wedi’i ddarparu yn barod ar gyfer 35 o brosiectau cadwraeth.

Ym mis Mai, bu bron i 50 o gynrychiolwyr  yn mynychu cynhadledd Dathlu Dadorchuddio a gynhaliwyd i ddathlu’r bartneriaeth hon, ac i ddangos arwyddocâd ac effaith y gwaith cadwraeth ar ddefnyddwyr a chasgliadau. Mae WHELF eisoes wedi nodi bod hyrwyddo a mynediad at gasgliadau yn un o’i amcanion strategol, a rhoddodd gefnogaeth ariannol hael tuag at gostau cynnal y gynhadledd.

Mae aelodau’r Grŵp Archifau a Chasgliadau Arbennig WHELF wedi gwneud nifer o geisiadau llwyddiannus am gyllid o‘r cronfa NMCT, ac roedd cyflwyniadau gan rhai ohonynt yn y gynhadledd. Roedd Elisabeth Bennett, Archifau Richard Burton, yn siarad am brosiect cofnodion Ffederasiwn Glowyr De Cymru sydd yn darparu tystiolaeth werthfawr am ddatblygiad cysylltiadau diwydiannol yn y DU a’r effaith ehangach ar hanes gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd. Siaradodd Elen Simpson, Archifau Prifysgol Bangor, am y prosiect i ddarparu mynediad i’r Papurau Penrhyn Jamaica. Mae’r papurau yma yn ffurfio rhan o Gasgliad Penrhyn,  adnodd ymchwil sylweddol sy’n taflu goleuni ar  weinyddiaeth ystâd fawr yng Ngogledd Cymru. Daeth planhigfeydd siwgwr yn Jamaica i feddiant cangen Pennant o’r teulu yn ystod yr 18fed a’r 19eg ganrif. Mae papurau Jamaica yn ymwneud â pherchnogaeth y planhigfeydd hyn ac maent yn darparu tystiolaeth o weithgareddau’r fasnach gaethweision ar y pryd.

Ymgeisydd llwyddiannus arall oedd Prifysgol Aberystwyth, a oedd wedi derbyn grant NMCT ar gyfer gwaith cadwraeth ar lawysgrifau cerddoriaeth bwysig a bregus o archif y Brifysgol, yn bennaf o gasgliad George Powell, Nanteos. Un o’r eitemau yw llawysgrif dwy ochr fregus, a ysgrifennwyd gan Gustav Holst fel y copi ymarfer o “O Spiritual Pilgrim” i’ Wŷl Gregynog 1933. Cafodd cyfres o lythyron Mendelssohn hefyd eu trin fel rhan o gais Prifysgol Aberystwyth am grant yn 2013. O ganlyniad i’r grantiau mae’r eitemau yma wedi cael eu trin ac ail-rwymo, ac o ganlyniad maent bellach ar gael i’r cyhoedd.

Mae’r cynllun nawr ar agor am geisiadau. Dylai datganiadau o ddiddordeb fod dim mwy na 750 o eiriau, a dylid eu e-bostio i sarah.paul@wales.gsi.gov.uk erbyn dydd Gwener 22 Gorffennaf, 2016.