Bydd 23 Mehefin 2015 yn gyflawniad pwysig i brosiect system rheoli llyfrgell (LMS) a rennir Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF) wrth i’r sefydliad cyntaf, Prifysgol Abertawe, roi’r system ddiweddaraf, Alma, a’r gwasanaeth darganfod adnoddau, Primo, gan Ex Libris, ar waith. Mae’r prosiect wedi cadw at amserlen lem a throm er mwyn cyrraedd y garreg filltir hon. Dywedodd Andrew Brown, Llyfrgellydd Gwasanaethau a Systemau Casgliadau ym Mhrifysgol Abertawe, “Mae wedi bod yn ymdrech tîm llwyr ym Mhrifysgol Abertawe, yn cynnwys llawer o staff, ac rydym wedi mwynhau cefnogaeth gref Gareth Owen, rheolwr rhaglen WHELF, a thîm rhoi ar waith Ex Libris.” Bydd y sefydliadau eraill yng ngharfan 1 y prosiect, gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol De Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, hefyd yn mynd yn fyw o fewn yr ychydig fisoedd nesaf, a bydd y system yn weithredol ar draws 11 sefydliad WHELF a Llyfrgelloedd GIG Cymru (drwy Brifysgol Caerdydd) erbyn diwedd 2016.

Cyfarfu Ken Skates AC, Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, â chydweithwyr sy’n gweithio ar y prosiect WHELF LMS a Rennir, yng Nghynhadledd CILIP Cymru Wales a gynhaliwyd yn ddiweddar. Dywedodd “Bydd gweithio ar y cyd ar system rheoli llyfrgelloedd a rennir yn cynnig buddion sylweddol i fyfyrwyr, darlithwyr a staff llyfrgell, ynghyd ag arbedion ariannol. Rwyf wedi fy mhlesio fod yr enghraifft wych hon o sefydliadau Cymreig yn cydweithio yn cael sylw rhyngwladol, ac yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi medru cefnogi’r fenter hon.”

Bydd llawer mwy o fanteision i system rheoli llyfrgell a rennir ar draws holl sefydliadau WHELF, gan gynnwys darparu gwasanaethau yn well drwy un chwiliad ar draws pob sefydliad, yn ogystal â’r potensial i rannu data a gwasanaethau i gynyddu gwerth, gwelededd a pherthnasedd casgliadau. Mae gwerth y prosiect eisoes wedi ei gydnabod wrth i WHELF ennill y categori ‘Tîm Llyfrgell Gorau’ yng Ngwobrau Arweinyddiaeth Addysg Uwch a Times Higher Education 2015 (THELMAs).

Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedalethol Cymru[:]