Mae archebion yn cael eu derbyn ar hyn o bryd ar gyfer trydedd gynhadledd hawlfraint Icepops, a gynhelir yng Nghaerdydd ar y 7fed o Orffennaf.

Dyma’r tro cyntaf i’r gynhadledd ryngwladol gael ei chynnal yng Nghymru, ac mae WHELF yn falch iawn o allu ei chefnogi.

Mae thema eleni’n canolbwyntio ar hawlfraint a sut mae’n effeithio ar dreftadaeth ddiwylliannol, GLAM, llythrennedd gwybodaeth, cyfathrebu ysgolheigaidd ac adeiladu cymunedau ymarfer. Mae’r prif siaradwyr yn cynnwys Dr. Emily Hudson (Coleg y Brenin Llundain), Dr. Andrea Wallace (Prifysgol Caerwysg) a Douglas McCarthy o Sefydliad Europeana. Cyn y gynhadledd, fe fydd digwyddiadau cymdeithasol a theithiau lleol, a’r cyfle i weithio gydag aelodau eraill o’r gymuned llythrennedd hawlfraint ryngwladol.

Mae’r alwad am gyfraniadau yn agored tan y 24ain o Chwefror – https://docs.google.com/forms/d/1G2v9gLhTDpqqHKn4tmn12xQPMMgbai6rQl0wAxruAM4/viewform?edit_requested=true

Gellir archebu lleoedd yn https://www.eventbrite.co.uk/e/icepops-2020-tickets-92017692395

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth arall, neu os hoffech drafod cyflwyniad posib, mae croeso ichi gysylltu â Marie Lancaster (mflancaster@cardiffmet.ac.uk) neu Scott Pryor (pryors@cardiff.ac.uk)