Ar ddydd Mercher, 25ain Ebrill 2018 rhwng 11:00 a 15:00 byddwn yn cynnal LibTeachMeet Aber eleni – sef cynhadledd fach hwyliog ac anffurfiol ar gyfer rhannu syniadau trwy gyflwyniadau byr. Thema eleni yw: Sut allwn ni wneud y llyfrgell yn fwy cynhwysol? Nod rhaglen y flwyddyn hon fydd i archwilio’r hyn y gallwn ei wneud fel unigolion ac fel sefydliad, i gwrdd ag anghenion amrywiol ein defnyddwyr, ac i wneud y llyfrgell mor gynhwysol â phosib i bawb. Mae’r digwyddiad ar agor i holl fyfyrwyr a staff. Cysylltwch ag acastaff@aber.ac.uk neu ewch i’r dudalen EventBrite os hoffech ragor o fanylion neu i gadarnhau eich presenoldeb. Rydym dal yn croesawu cynigion am gyflwyniadau byr. Os hoffech rannu syniadau neu brofiadau am arferion cynhwysol cysylltwch â ni hefyd os gwelwch yn dda.