Dyma’r alwad olaf am bapurau ar gyfer Colocwiwm Ar-lein Gregynog, digwyddiad rhad ac am ddim a gynhelir rhwng y 9fed Mehefin – 11eg Mehefin.

Mae prif thema a thestunau’r colocwiwm fel yr oeddent:

Paratoi AU ar gyfer y dyfodol:

  • Tueddiadau dysgu ac addysgu i’r dyfodol;
  • Cynhwysiant, hygyrchedd, cydraddoldeb ac amrywiaeth;
  • Sgiliau a chymwyseddau ar gyfer y dyfodol i’n defnyddwyr a’n staff;
  • Deallusrwydd artiffisial, data a dadansoddeg;
  • Seiberddiogelwch

ond os hoffech gyflwyno papurau sy’n ymwneud â gweithio yn yr amgylchedd ar-lein oherwydd Covid-19, mae croeso ichi ddanfon y rheiny hefyd.

Dylai papurau fod yn 20 neu’n 15 munud o hyd, er y gobeithiwn fod yn hyblyg. Fe fydd amser hefyd ar gyfer cwestiynau a thrafodaeth.

Mae croeso ichi fywffrydio neu recordio eich cyflwyniad. Byddwn yn rhannu canllawiau ar gyfer cyflwynwyr cyn bo hir.

Mae’r colocwiwm yn nodedig am ei ddigwyddiadau cymdeithasol ac rydym yn gobeithio atgynhyrchu hynny ar-lein gyda noson o dderbyniad ‘dod â’ch diodydd eich hun (DDEH)’ a noson gwis.

Rhaglen fras:

Llyfrgelloedd: Dydd Mawrth 9fed Mehefin, 10:00 am – 12:00 pm ac 1:00 pm – 3:00 pm

Sesiwn a thrafodaeth Panel ar Strategaethau Digidol: Dydd Mercher 10fed Mehefin, 1:00 pm – 3:00 pm

DDEH a chwis: Dydd Mercher 10fed Mehefin, 7:00 pm – 8:30 pm

TG: Dydd Iau 11eg Mehefin, 10:00 am – 12:00 pm ac 1:00 pm – 3:00 pm

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn papurau yw’r 22ain Mai ac fe hysbysebir y rhaglen derfynol o’r 1af Mehefin.

Os hoffech gyflwyno papur cofiwch gynnwys y wybodaeth ganlynol:

Rhestr o enwau’r cyflwynwyr a’r sefydliad y maent yn gweithio iddo.

Teitl a disgrifiad byr o’ch papur

Hyd y cyflwyniad.

Ebostiwch eich cyflwyniadau i: gregynog2020@aber.ac.uk