Annwyl gydweithwyr –
Bydd Prifysgol Abertawe yn lletya digwyddiad i drafod dyfodol ystorfeydd Cymru, mynediad agored, rheolaeth data, y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ac ORCID. Mae’r digwyddiad yn agored i bawb o staff mewn sefydliadau Addysg Uwch. Bydd gennym siaradwr o Lyfrgell Genedlaethol Cymru i’n helpu i lywio’r drafodaeth.
Os dymunwch fod yn bresennol/cyfrannu/rhannu/awgrymu pwnc ar gyfer trafodaeth yn y digwyddiad hwn, anfonwch e-bost i Rebecca r.kelleher@swansea.ac.uk erbyn 15 Gorffennaf.
Manylion:
Digwyddiad – Diwrnod Seminar Ystorfeydd Cymru
Dyddiad – Dydd Llun, 21 Gorffennaf 2014
Amser – 9:30 cyrraedd a choffi er mwyn dechrau am 10:00– gorffen am 16:00
Cost – RHAD AC AM DDIM, darperir cinio a the/coffi
Man cyfarfod – Prifysgol Abertawe, Ystafell Seminar SURF yn Nhŷ Fulton
I archebu eich lle, anfonwch e-bost i Rebecca r.kelleher@swansea.ac.uk i ddechrau a dim hwyrach na’r 15 Gorffennaf. Sylwer, os gwelwch yn dda, fod cyfyngiad ar y nifer o leoedd.
Anfonir agenda manwl am y diwrnod i chi wythnos cyn y digwyddiad.