Wele ddolen i dudalen Cynhadledd Ryngwladol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gynhelir yng Nghanolfan y Mileniwm rhwng y 1af a’r 3ydd o Orffennaf. Ymhlith y siaradwyr gwadd mae’r athro Jasone Cenoz (Prifysgol Gwlad y Basg), yr Athro Colin Williams (Prifysgol Caerdydd), Dr Jan Roukens (gynt o’r Comisiwn Ewropeaidd) a’r Athro Durk Gorter (Sefydliad Gwyddonol Ikerbasque). Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones AC a’r Gweinidog Addysg a Sgiliau Huw Lewis AC hefyd yn bresennol. Bydd sesiynau trafod ar gyhoeddi, ymchwil, safoni a deunyddiau addysgiadol o ddiddordeb i rwydwaith WHELF. Mae mynediad am ddim ac mae modd cofrestru hyd at y 30ain o Fai.

http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/newyddion/cynadleddau/cynhadleddrhyngwladol2014/