System newydd ar gyfer llyfrgelloedd ledled Cymru i feithrin rhagor o gydweithio rhwng prifysgolion

Cynhelir digwyddiad heddiw (dydd Iau, 22 Medi 2016) yn y Cynulliad i ddathlu system newydd ar gyfer rheoli llyfrgelloedd fydd yn hyrwyddo cydweithio rhwng llyfrgelloedd ar draws gwahanol sectorau yng Nghymru.

sue-preferredBydd y system newydd, a gaiff ei rhannu gan lyfrgelloedd prifysgolion yng Nghymru (Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam), llyfrgelloedd y GIG, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn arbed arian, yn annog cydweithio ac yn cynnig y posibilrwydd o rannu casgliadau ledled Cymru. Cwblhaodd Prifysgolion Bangor a Glyndŵr gam cyflwyno’r system yn ddiweddar, yn ogystal â chau pen y mwdwl ar yr amserlen ar gyfer ei rhoi ar waith ledled Cymru.

System rheoli llyfrgelloedd yw’r dechnoleg sy’n galluogi prifysgolion a llyfrgelloedd eraill i brynu, rhestru, benthyg a dangos eu deunyddiau. Mae consortiwm sydd wedi’i greu gan Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF, rhwydwaith o lyfrgelloedd prifysgolion a Llyfrgell Genedlaethol Cymru) a’i reoli gan Brifysgol Caerdydd, wedi cyflwyno systemau Alma a Primo ar draws y sefydliadau sy’n aelodau ohono yn rhan o raglen dair blynedd o hyd. Ex Libris sydd wedi darparu’r systemau.

Bydd cyflwyno’r system newydd yn llwyddiannus ar draws rhwydwaith WHELF, ochr yn ochr â rhoi cam cyntaf system a rennir ar gyfer rheoli llyfrgelloedd cyhoeddus ar waith, yn cael ei ddathlu mewn digwyddiad heddiw yn y Senedd gyda Julie James AC, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth.

Rich Hall Photography

Rich Hall Photography

Cefnogir digwyddiad ‘Dathlu cydweithio rhwng llyfrgelloedd’ gan lyfrgelloedd cyhoeddus Cymru a Sefydliad Siartredig y Gweithwyr Proffesiynol ym Meysydd Llyfrgelloedd a Gwybodaeth (CILIP, sy’n cefnogi gwaith y Proffesiwn Llyfrgelloedd, Gwybodaeth a Dealltwriaeth). Diben y digwyddiad yw dathlu cydweithio ehangach ar draws llyfrgelloedd yng Nghymru.

Cyn y digwyddiad, dywedodd Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru, Julie James:

“Pleser o’r mwyaf yw gallu dathlu sut mae llyfrgelloedd Cymru yn cydweithio ac yn arloesi, ac rwy’n falch dros ben fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r ddau brosiect yma. Mae llyfrgelloedd Cymru ar flaen y gad o ran cydweithio er mwyn rhoi gwasanaeth gwell i bawb sy’n eu defnyddio. Bydd y systemau rheoli newydd yn cynnig manteision sylweddol i aelodau o lyfrgelloedd ledled Cymru. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd hefyd yn ysgogi rhagor o gydweithio yn y dyfodol.”

Dywedodd Sue Hodges, Cyfarwyddwr Llyfrgelloedd ac Archifau ym Mhrifysgol Bangor a Chadeirydd WHELF: “Mae hwn yn llwyddiant rhyfeddol sy’n dangos faint o ymddiriedaeth, ymrwymiad, gweledigaeth a phwyslais ar gydweithio sydd o fewn rhwydwaith WHELF. Hoffwn ddiolch i bob sefydliad sy’n rhan o WHELF ac Ex-Libris am eu hymdrechion arwrol wrth roi’r system ar waith a’i chyflwyno ar amser, a hynny o fewn amserlen heriol dros ben.  Bydd myfyrwyr yn elwa’n fawr ar y system newydd fydd yn ei gwneud hi’n haws iddynt gael gafael ar adnoddau ar gyfer addysgu, dysgu ac ymchwil.”

Dywedodd Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru: “Mae cydweithio yn rhan hanfodol o ymdrechion Gwasanaethau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru i gyflawni eu dyletswydd statudol i roi gwasanaeth cynhwysfawr ac effeithlon i’w trigolion. Drwy lansio’r cam cyntaf i fabwysiadu System Gyfrifiadurol ar gyfer Rheoli Llyfrgelloedd Cymru yn y gogledd, bydd y prosiect hwn yn cynnig manteision i bob awdurdod. Mae hefyd yn gam pwysig ymlaen i wneud yn siŵr bod modelau cynaliadwy o gyflwyno gwasanaethau llyfrgelloedd yng Nghymru.”

Rich Hall Photography

Rich Hall Photography

Meddai Mandy Powell, Pennaeth CILIP Cymru: “Gwych o beth yw gweld prosiect o’r fath raddfa ac uchelgais yn caelei ddathlu’n briodol. Mae Llyfrgellwyr a Rheolwyr Gwybodaeth aDealltwriaeth yn arbenigwyr yn eu maes. P’un ai ydynt yn defnyddio eu sgiliau estynedig i helpu defnyddwyr drwy ehangu mynediad, arbed arian neu agor casgliadau, mae pethau gwych yn digwydd pan mae llyfrgellwyr yn gwneud eu gwaith.”

Prifysgol Caerdydd yw un o’r prifysgolion yng Nghymru sydd wedi cyflwyno system newydd ar gyfer rheoli llyfrgelloedd ym mis Awst 2016. Rhai o staff y Brifysgol fu hefyd yn gyfrifol am reoli’r broses gaffael a rhoi’r system newydd ar waith. Meddai Janet Peters, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd a chadeirydd grŵp llywio’r prosiect: “Mae’r bartneriaeth rhwng y sefydliadau sy’n aelodau o WHELF wedi bod yn hanfodol ar gyfer llwyddiant prosiect mor uchelgeisiol. Dros nifer o flynyddoedd, mae’r awydd i gydweithio wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig. Edrychwn ymlaen at rannu adnoddau ac arbenigedd â’n cydweithwyr ar draws llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr, ymchwilwyr, clinigwyr a defnyddwyr eraill ar eu hennill o ganlyniad i’r system newydd drwy allu chwilio drwy gasgliadau llyfrgelloedd ledled Cymru yn yr un modd. Rydym eisoes yn cynllunio rhagor o ddatblygiadau i symleiddio mynediad hyd yn oed ymhellach.”

Rich Hall Photography

Rich Hall Photography

Press release courtesy of Cardiff University.