Cynlluniau Mynediad a Benthyca

Myfyrwyr a staff sefydliadau addysg uwch

Gall myfyrwyr a staff sefydliadau addysg uwch gael mynediad i’r rhan fwyaf o’n llyfrgelloedd drwy SCONUL Access. Mae SCONUL Access yn caniatáu i lawer o ddefnyddwyr llyfrgelloedd prifysgolion gael mynediad i lyfrgelloedd eraill sy’n rhan o’r cynllun. I gael rhagor o fanylion a sut i wneud cais, cliciwch yma.

 

Cynlluniau mynediad eraill

Mae sefydliadau WHELF hefyd yn perthyn i nifer o gynlluniau ar draws sectorau a chymunedau er mwyn caniatáu i’r cyhoedd a’r gymuned leol gael mynediad i’w llyfrgelloedd.

Cynllun Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd – Libraries Wales

Mae Cynllun Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd yn galluogi i unrhyw aelod o wasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus, addysg bellach, addysg uwch, neu GIG/gwasanaethau llyfrgell Iechyd Abertawe, Castell Nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys a Sir Benfro fenthyg* o unrhyw un o’r sefydliadau a restrir.

Amgueddfa Cymru-National Museum Wales

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Cyfoeth Naturiol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Prifysgol Abertawe

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Bangor

Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Prifysgol De Cymru

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Prifysgol Wrecsam

 

 

Sylwer bod mynediad i bob sefydliad sy’n aelod o WHELF drwy ganiatâd y sefydliad hwnnw a gellir ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg. Mae’n rhaid i bob benthyciwr sydd am gael mynediad i brifysgolion Cymru ufuddhau i bolisïau, rheolau a rheoliadau’r sefydliad dan sylw.